Chwyddwydr Mis Mai

Yma yn y Ganolfan, mae gennym bawb, o’r canwr Americanaidd o’i gorun i’w sawdl, Don McLean, i Nigel Havers, a hyd yn oed y perfformiwr sy’n mesmereiddio, Derren Brown, yn mynd ar y llwyfan.

A chydag amserlen lawn o ddawnsio, cerddorfa, jas, a theatr sydd wedi ennill gwobr yn rhan o’r arlwy, ni fydd arnoch eisiau colli dim o gwbl!

Dyma rai o’n huchafbwyntiau ar gyfer mis Mai ….

Chwyddwydr Mis Mai

Chwyddwydr ar fis Ebrill

Ffarwél i fis Mawrth a chroeso i fis Ebrill – ac mae’r gwanwyn yn sicr wedi cyrraedd, yma yn y Ganolfan!

Y mis hwn, mae gennym rywbeth ar gyfer pawb, yn cynnwys comedi, rhamant, hanes, opera a dawns.

Mae gennym hefyd lawer iawn o hwyl i’r teulu – cymerwch olwg ar ein blog Pasg.

Dyma gipolwg chwim ar rai o’n huchafbwyntiau …

  Chwyddwydr ar fis Ebrill

Myfyrwyr yng nghanol y llwyfan gwirfoddoli

Eleni, yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 19 Chwefror, fe anogir myfyrwyr i roi ychydig yn ôl i’r gymuned  fel rhan o wythnos myfyrwyr sy’n gwirfoddoli. I ddathlu 17eg pen-blwydd wythnos myfyrwyr sy’n gwirfoddoli, fe feddyliasom y byddem yn rhannu proffil un o’n gwirfoddolwyr, i ddangos ichi nad yw gwirfoddoli ond yn rhywbeth y gwnewch i eraill. Cymerodd Lauren Thornell, myfyrwraig Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod rheolaidd o’n cynllun gwirfoddoli, yr amser i siarad â ni am ei gwaith yma.

Myfyrwyr yng nghanol y llwyfan gwirfoddoli

Chwyddwydr ar Fis Chwefror

Ar ôl mis Ionawr hirfaith, diflas a hynod oer, mae’r cyfan drosodd o’r diwedd.  Mae mis Chwefror wedi cyrraedd, ynghyd ag amserlen newydd o adloniant.

Gyda lleisiau esgynnol, operatig o Opera Cenedlaethol Cymru, arddangosfeydd syfrdanol o symudiadau gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a stori drawsiwerydd o

lwyddiant seren fachlud o Hollywood, mae arlwy mis Chwefror yn sicr o sirioli’r hyn sy’n weddill o dymor y gaeaf.

Chwyddwydr ar Fis Chwefror

Straeon tylwyth teg i swyno’r Ganolfan

Amser maith yn ôl, yng ngwlad bryniau a chaneuon, roedd yna theatr a chanolfan gelfyddydau a gerid gan bawb a ymwelodd â nhw …

Ac wele, rydych wedi dyfalu’n gywir – mae hi’n Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon unwaith eto!

I ddathlu’r fenter genedlaethol hon, sy’n annog pobl i archwilio’u cariad tuag at lenyddiaeth, fe fyddwn yn tyrchu i mewn i fyd bendigedig straeon tylwyth teg.

Cymerwch olwg ar yr arwyr a’r dihirod, sliperi gwydr, genethod heirdd a bwystfilod,  dewinesau caredig, hud ac angenfilod sydd gennym ar y gweill yn y Ganolfan eleni …

  Straeon tylwyth teg i swyno’r Ganolfan

Chwyddwydr ar fis Ionawr  

Blwyddyn Newydd Dda, bawb – ac onid oes gennym 2018 fendigedig ichi!

I roi dechreuad go iawn i’r flwyddyn, fe ddown â cherddoriaeth Take That ichi, cerddoriaeth a hoffir yn rhyngwladol, digon o chwerthin oddi wrth y digrifwr Sean Lock a sain Cerddorfa Genedlaethol Cymru nad oes modd ei cholli. Mae hon yn sicr o fod yn rhestr mis Ionawr na wnewch ‘Fyth mo’i Anghofio’!

Chwyddwydr ar fis Ionawr