Gweithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru – Yr adeg y teimlais falchaf

Mae cael gweithio yn y Canolfan Mileniwm Cymru yn rhywbeth mor wobrwyol, yn byrlymu gyda chreadigrwydd a chyfleoedd. Sarah Roberts o’r tîm Dysgu Creadigol, yn rhannu ei moment mwyaf cofiadwy yn y Ganolfan.

A minnau’n gweithio mewn tîm sy’n gyson ymdrechu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, fe deimlaf yn freintiedig o fod wedi profi fy nghyfran deg o adegau hyfryd dros y blynyddoedd.  Rwyf yn falch o’r hyn y gall pobl angerddol o’m hamgylch ei gyflawni dros a chydag eraill, yn falch o’r uchelgais a phosibiliadau y gall canolfan gelfyddydau genedlaethol eu darparu, ac yn falch o fod yn ddolen fechan mewn sector celfyddydol cydweithredol a ffyniannus o’r fath yng Nghymru.

Ond gyda 10 mlynedd o hanes o weithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru – pa bryd y teimlais falchaf?

Gallwn siarad am fachgen bychan a syfrdanodd ei athrawon drwy dderbyn rôl fel seren a llwyddo’n ysgubol, er gwaethaf rhagdybiaethau na fyddai’n gallu dysgu llinellau na bod yn ddigon hyderus i berfformio gerbron athrawon, cyfoedion a rhieni.

Gallwn siarad am ŵr ifanc a oresgynnodd helbulon gorbryder i ddod gyda ni ar drip i’r theatr yn Llundain, a’r hwb i’w hyder a roes y daith honno iddo.

Gallwn siarad am y gorfoledd sy’n llifeirio o bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn ein prosiectau Codi’r Llen, a sut mae’r profiad hwnnw wedi’u hysbrydoli i gyflawni mwy.

Gallwn siarad am gynifer o’r adegau hyn, ond fe gredaf y bydd 2016 yn wastad yn aros yn y cof.  Roedd hi’n brysur, yn wirioneddol brysur ac fe wnaethom wirioneddol ddathlu Dahl.  Roedd Canmlwyddiant Roald Dahl yn anrheg o thema i wahodd teuluoedd, ysgolion, pobl ifanc a chymunedau i lamu i fyd bendigedig Dahl gyda ni ac i gael hwyl.

Gwelodd ‘City of the Unexpected’ ym mis Medi 2016 dros 150,000 yn cymryd rhan.  Roedd hi’n ymdrech epig ac aruthrol gan y tîm a chan lawer o bartneriaid i weddnewid strydoedd Caerdydd.  Ar y dydd Sadwrn, roeddwn yn “gweithio”, os gallwch alw gofalu am ddawnswyr hwla yn ‘weithio’!  Fe’i galwaf yn waith gorfoleddus.  Fodd bynnag, ar y dydd Sul, fe wnes ei hanelu hi am fy mhyjamas, gobennydd a phicnic ac fe gefais y pleser o ymuno â’r parti pyjamas mwyaf ym Mharc Bute mewn tywydd heulog godidog gyda theulu a chyfeillion.  Ar ôl rhedeg ar ôl fy mhlentyn dwyflwydd oed i mewn ac allan o dorfeydd o bobl, ac ymddiheuro wrth iddo helpu ei hun i bicniciau pawb arall, picniciau dan ysbrydoliaeth ‘Revolting Recipe’, cyrhaeddodd y diwrnod ei anterth mewn munud fydd yn gwirioneddol aros gyda mi …

Roedd o’n dwmpath torfol dan arweiniad Fantastic Mr Fox, lle roedd pobl hen ac ifanc yn dawnsio gyda’i gilydd.  Gan edrych o amgylch y cae ar dorfeydd o bobl ddieithr mewn pyjamas, wrth iddynt ryw neidio-ddawnsio a chan ddilyn cyfarwyddiadau gan lwynogod â chrythau, ac i gyfeiliant lleisiau godidog plant yn Only Kids Aloud, roedd o’n hollol hudolus.  Chwaraeai cenedlaethau gyda’i gilydd.  Bydd y llawenydd ar wynebau fy mhlant 4 a 2 flwydd oed, wrth iddynt lamu gyda’u cefnder, eu cyfeillion bychain, eu teidiau a’u neiniau, eu rhieni a dieithriaid hollol yn aros gyda ni oll.

The Great Pyjama picnic

Weithiau, pan ydych yn ei chanol hi, mae’n hawdd symud ymlaen i’r peth nesaf heb oedi ennyd i fyfyrio ar fod yn rhan o greu rhywbeth arbennig na fydd efallai byth yn digwydd eto.  Mae ysgrifennu hyn wedi fy annog i stopio a meddwl,  “Ie, mae hynna’n eitha’ cŵl, onide?”

Os oeddech chi yno ac mae arnoch eisiau ail-fyw rhai atgofion o COTU, cymerwch olwg ar hyn – https://www.youtube.com/watch?v=T50nB2oozeA