Rent: Dwy Ddegawd o Waddol

Ar fore Ionawr cwbl gyffredin yn 1996, roedd Efrog Newydd yn ymadfer yn dilyn storm eira ddifrodus, ac roedd cast gwreiddiol Rent yn paratoi ar gyfer rhagolwg cyntaf y dref o sioe a oedd newydd ei geni.

Y bore hwn, byddai ei hysgrifennwr a’i chyfansoddwr, Jonathan Larson, yn dioddef ymlediad aortaidd. Byddai’r sioe’n colli ei phatriarch. Ni fyddai Larson yn gweld adolygiadau brwd beirniaid, ffotograffau enwogion â’r cast, na’r gwaddol a adawodd ar ei ôl.  Ni fyddai fyth yn darllen darnau wedi’u gwasgaru ledled y rhyngrwyd, flynyddoedd, hyd yn oed, wedi i’r sioe adael y llwyfan.

I anrhydeddu Larson, byddai cynhyrchwyr yn cynnig tocynnau $20 i resi blaen y gynulleidfa, gan wneud y sioe’n brofiad hygyrch, dynol i’r artistiaid ymdrechgar y maen nhw mor ofalus i’w diogelu. Ni chafodd ysbryd Larson ei anghofio, hyd yn oed ar ôl ei farwolaeth.

Cafodd gyrfaoedd sêr mawr Broadway Idina Menzel, Taye Diggs ac Anthony Rapp, eu trawsnewid, a byddai’n ddiweddarach yn dod yn ffilm fawr wedi’i chynhyrchu gan Robert DeNiro yn 2005. Treuliodd 12 mlynedd ar Broadway, gyda 5,124 o berfformiadau a Gwobr Pulitzer am Ddrama yn ei chas tlysau. Byddai’n ysbrydoli ideoleg ac uchelgais dawn a oedd yn ymddangos, yn cynnwys cariad mawr newydd Lin-Manuel Miranda o Broadway, Hamilton.

Hanes trasig ac anamserol sy’n gyfrifol am ran helaeth o etifeddiaeth Rent, ynghyd â thueddiadau hunangofiannol o fywyd Larson ei hun. Gyda golygfeydd a synau sydd mor gynhenid i’r 90au, mae wedi dod yn eiconig, ac yn ddiymwad ddylanwadol i gynulleidfaoedd yn y ddau ddegawd diwethaf.

RENT 3Gan ddechrau ar ei stori ar Noswyl y Nadolig, am 9yh, 1989, mae Rent yn ein cyflwyno i fywyd crwydrol bywiog. Gydag artistiaid tlawd, gwneuthurwyr ffilmiau, a chrefftwyr geiriau’n crwydro o gwmpas Pentref Dwyrain Efrog Newydd, caiff y gynulleidfa ei hyrddio i ganol argyfwng Aids. Wrth i’r cast berfformio Rent, bydd lleisiau’n rhuo, “Hungry and frozen, it’s the life we’ve chosen”, herfeiddiad cadarn yn erbyn hierarchaeth ddiwylliannol Manhattan, gydol yr amser, wedi’i thanategu gan y difrod diwylliannol a achoswyd i gymunedau LGBT.

Mae diwylliant pop wedi symud ymlaen, wrth gwrs. Gall llawer newid mewn 10 mlynedd, yn enwedig gan fod Rent wedi’i wreiddio mor ddwfn yn niwylliant ei oes. Heddiw, er hynny, mewn tirwedd wleidyddol ansicr, mae ei neges o gariad ac amrywiaeth yn dal i gyseinio â chynulleidfaoedd hen a newydd.  Mae, fel arteffact diwylliannol, yn arddangos agweddau diwedd yr 1980au a’r 1990au, mewn cyfnod lle’r oedd HIV, hunaniaeth rywiol, a chenedl wedi’u clymu’n annheg â’i gilydd. Mae’n gyferbyniad hollol i heddiw, lle mae byw bywyd â’r afiechyd yn bosibl.

RENT 4Mae Rent sy’n sioe gerddorol o ddifri’ ac amrywiol, yn elwa ar sail thematig graidd o gariad.  A hithau wedi’i chydblethu â dibyniaeth, cariad ffôl, ac afiechyd, mae’r sioe’n arddangos naratif sydd wedi’i lywio gan amser, neu ddiffyg hynny. Mae’n dilyn pryder cymeriadau y gellir ymberthnasu â nhw wrth iddyn nhw ymgodymu â’u realaeth eu hunain.  Tra bo sawl un o’r cymeriadau’n byw ag HIV, mae Rent yn chwilio am fywyd sydd wedi’i fyw’n dda, am urddas mewn afiechyd, ac am dderbyniad. Mae’n fywiog ac yn ddifrifol, i gyd yr un pryd.

Drwy gydol y sioe, ni all cynulleidfaoedd osgoi ei chalon. Yng nghanol y stori y mae Angel, traws-wisgwr llawen sydd â’i anwyldeb a’i hoffter o fywyd yn heintus.  Mae hapusrwydd Angel, a ystyrir yn un o’r cymeriadau LGBT mwyaf blaengar a dylanwadol yn y theatr a’r ffordd y mae’n ei dderbyn ei hun, yn gwneud Efrog Newydd yn lle cynhesach, yn ffantasi Larson sy’n egnïol, yn lliwgar ac weithiau’n fudr o Bentref Dwyrain Manhattan.

rent 7Mae Rent fel corfforiad cerddorol o’r ysbryd rhydd artistig, yn dathlu amddiffyniad angerddol o fyw fel y mynnwn ni, wedi’n hamgáu gan unawd ymosodgar Mimi’r ddawnswraig egsotig ‘Out Tonight’ – anthem fydd yn eich gadael â syched am fywyd.

Yn ei chraidd, mae’n gyfaredd ag amser, a breuder bywyd dynol. Gyda chymeriadau meddwol a pherfformiadau ardderchog o ffefrynnau cynulleidfaoedd fel ‘Take Me or Leave Me’, ‘La Vie Boheme’, a ‘Seasons of Love’, fe adewir cynulleidfaoedd yn obeithiol ac yn awyddus am fwy o amser yn y 1990au.

officallaviebohemerent

Gan adael neges o gariad marwol o’i ôl, mae Rent yn archwiliad o holl nwydau a buddugoliaethau bywyd, ac mae’n amlygu addewid diawydd bywyd o yfory.  Gadewir cynulleidfaoedd, yng ngwir ddull ‘carpe diem’, yn gwybod nad oes dim yn sicr heblaw am heddiw.

Rentofficialgif

Cewch weld Rent yn y Ganolfan o’r 3ydd-8fed o Ebrill.